Hiliaeth a lle

Dyfrig Williams
3 min readSep 22, 2022
Black Lives Matter

Doedd hiliaeth yng nghymdeithas ddim yn amlwg i mi wrth i mi dyfu fyny fel bachan gwyn o gefn gwlad Gorllewin Cymru. Ond wnaeth ymateb Heddlu’r Met i lofruddiaeth Stephen Lawrence dangos i mi bod yna lot mwy yn digwydd nag yr oeddwn i wedi gweld neu deall.

Rydw i wedi cael fy insiwleiddio rhag y realiti o hiliaeth. Dyw’r brwydr diwylliant presennol ddim yn newydd, ond mae’n glir ers pleidlais Brexit ac etholiad Trump fod yna frwydr rhwng pobl sy’n gweld cenedligrwydd fel rhywbeth sy’n deillio o bobl a phrofiadau amrywiol, a’r rhai sydd am eithrio pobl y maen nhw’n eu hystyried yn wahanol.

Ymlyniad at le

Yn Fforwm Arweinwyr Research in Practice, fe wnaeth Jessica Prendergrast rhannu gwaith rhagorol yr Onion Collective yn Watchet. Mae ei gwaith ar “Attachment Economics” yn amlinellu ein hymlyniad at le, pobl ac amser. Mae hyn yn gwneud synnwyr i mi, ond daeth fy mraint fel dyn gwyn yn amlwg wrth i mi ddarllen “Wales:Plural.”

Clawr Wales: Plural, sydd ar gael o https://repeaterbooks.com/product/welsh-plural-essays-on-the-future-of-wales/#:~:text=In%20Welsh%20(Plural)%2C%20some,thinking%20about%20Wales%20and%20Welshness.

Mae Durre Shahwar yn rhannu ei phrofiad o dyfu i fyny yng Nghymru ac yn cyfeirio at waith Irwin Altman a Setha Low. Mae hi’n ysgrifennu am ymlyniad i le fel “y ffyrdd y mae pobl yn cysylltu â llefydd amrywiol, ac effeithiau’r rhwymau hyn wrth ddatblygu hunaniaeth, creu llefydd, canfyddiad ac ymarfer.” Mae’n rhannu ei phrofiadau ei hun a’r ffordd wnaeth hi deimlo mewn mannau gwledig:

“Byddai’r cwlwm di-lafar rhwng aelodau’r teulu’n gadael i mi wybod eu hanesmwythder a’r syllu a gawsom — yr ydym yn aml yn dal i’w gael — fel pobl o liw mewn mannau gwyrdd.”

Fe ddywedodd rhywun wrth mi unwaith mai fi oedd y “person mwyaf Cymreig yn y byd.” Mae’r datgysylltiad yma o le yn amlygu’r manteision rydw i wedi profi wrth fyw yn fy nghymuned.

Does yna ddim lle saff ar y foment. Mae fy ffrwd Twitter wedi dod yn fwy gwenwynig dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Gallai dim ond dychmygu beth mae fy nghydweithwyr lleiafrifol yn teimlo ynghylch yr amgylchedd yma. Rydym wedi gweld ymgyrchoedd i ddod â ffoaduriaid gwyn Wcráin i’r wlad, ac eto mae yna ddadlau diddiwedd ynghylch os all bobl o gefndiroedd lleiafrifol galw eu hunain yn Brydeinwyr, os allant nhw aros yma, ac os ddylid eu halltudio i Rwanda.

Newid sut ni’n gweithio

Er bod yr asgell dde yn defnyddio “woke” fel rheg, mae llawer o ddulliau cynhwysol yn dechrau llywio’r ffyrdd rydyn ni’n byw ac yn gweithio gyda’n gilydd. Mae llofnod e-bost Ahmina Akhtar yn rhannu sut i ddweud ei henw yn ffonetig. Rydw i wedi bod yn gwneud yr un peth ers i mi dderbyn fy e-bost cyntaf ganddi. Mae rhai pobl sydd wedi bod yn dweud fy enw yn anghywir am flynyddoedd nawr wedi cywiro eu hunain.

Rwyf wedi ychwanegu fy rhagenwau at fy llofnod hefyd. Mae fy enw i’n anghyfarwydd i bron i bawb yn Lloegr, ac felly maen nhw’n ffeindio fe’n anodd synhwyro pwy maen nhw’n cyfathrebu â. Mae’r weithred yma wedi helpu pobl i gysylltu â mi. Mae fe hefyd wedi gwneud i mi sylweddoli pa mor aml rydym yn rhoi’r baich o ddadbacio gwybodaeth a phrofiadau wrth ddrws cydweithwyr lleiafrifol. Maen nhw’n gwneud cymaint o waith ychwanegol i’n haddysgu, ond dylai ni fel cynghreiriaid gwyn fod yn gyfrifol am ein haddysgu ein hunain. Mae’r blogbost yma gan Nour Sidawi yn cynnwys sawl adnodd defnyddiol sy’n gallu helpu ni i wneud hynny, ac mae llawer o adnoddau eraill ar gael ar flaenau ein bysedd. Gall Twitter fod yn uffernol, ond gall hefyd ein helpu ni i weld y byd trwy lygaid pobl eraill.

Mae effaith hiliaeth systemig i’w gweld mewn enghreifftiau fel achos Plentyn Q, lle cafodd merch ddu 15 oed ei noeth-chwilio yn yr ysgol. Ni allwn wadu bod ein system yn ofnadwy o ragfarnllyd pan all pethau fel hyn ddigwydd. Fel y dywedodd Nimal Jude yng nghynhadledd Research in Practice, ddoe oedd yr amser gorau i ddechrau’r newid, ond nawr yw’r ail amser gorau. Rhaid i ni ddechrau felly.

--

--

Dyfrig Williams

Cymraeg! Music fan. Cyclist. Scarlet. Work for @researchip. Views mine / Barn fi.