Gonestrwydd Radical a symud i ffwrdd o arfarniadau blynyddol

Dyfrig Williams
Gwneud pethau gwell
4 min readMar 8, 2022

--

Dros y misoedd diwethaf rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i dderbyn coetsio er mwyn hybu fy natblygiad personol. Rydw i wedi cael lot o sgyrsiau diddorol a defnyddiol, yn enwedig ynghylch adborth.

Gallaf weld pam mae gwerthusiadau blynyddol yn ymddangos yn ddefnyddiol os nad ydych chi (neu’r sefydliad) yn cael adborth rheolaidd ar sut dy chi’n gweithio. Mae’r broses adborth 360 dienw yn golygu bod modd osgoi’r ddeinameg pŵer wrth roi adborth — os dy chi newydd gychwyn o fewn sefydliad neu os ydych chi’n teimlo fel eich bod chi’n agored i niwed, gallwch rannu’ch sylwadau’n ddienw.

Yn anffodus nid yw’n bosib cael dealltwriaeth ddyfnach o unrhyw anghenion gan fod yr adborth yn ddienw. Nid yw’n amserol chwaith — cyfeirir at bethau a ddigwyddodd fisoedd yn ôl, sy’n golygu dyw e ddim yn bosib cywiro unrhyw gamgymeriadau. Ac os ydych chi’n anghytuno â’r adborth, does dim modd herio fe.

Ffordd arall o dderbyn adborth

Codais fy rhwystredigaethau gyda’r goets. Fe wnaethon ni rhoi proses fisol at ei gilydd ble fyddwn i’n gofyn yn uniongyrchol i bobl am adborth, a byddwn i’n cyfarfod â nhw ar ddiwedd y mis i drafod beth roedden nhw wedi gweld yn ystod y mis a thu hwnt.

Gofynnais i bobl i feddwl am:

  • Beth y dylwn i roi’r gorau i wneud.
  • Beth sy’n gweithio’n dda y dylwn i barhau i’w wneud.
  • Beth y dylwn i ddechrau gwneud.

Byddai hyn yn fy helpu i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o’r hyn y gallaf wella, gan fy ngalluogi i gael sgwrs am sut y gallaf wneud pethau’n well. Os mae hyn yn effeithiol, dylai fy mod i’n disgwyl popeth sy’n dod i fyny yn fy arfarniad. Rydw i hefyd yn gobeithio y gallai chwarae rhan mewn datblygu diwylliant adborth yn ein mudiad, ble rydym yn rhoi adborth da yn rheolaidd.

Er bod adborth misol yn llawer gwell nag adborth blynyddol, roeddwn i’n poeni na fyddai’r adborth yma’n ddigon amserol chwaith, felly ar ôl trafodaeth a Kelly Doonan fe wnes i ychwanegu gafeat i’r e-bost i ddweud doedd dim angen aros nes ddiwedd y mis os oedden nhw’n gweld bod cyfle i fwydo nôl yn gynt.

Beth ddigwyddodd?

Rydw i wedi cael sgyrsiau cadarnhaol gyda fy nghydweithwyr. Rydw i wedi darganfod y gallaf greu lot mwy o eglurder ynghylch fy rôl newydd fel Pennaeth Dysgu. I ddechrau roeddwn i’n poeni y byddwn i’n camu ar draed fy nghydweithwyr, ond nawr rydw i’n sgwennu proses sy’n nodi lle y gallaf ychwanegu gwerth.

Rydw i’n bwriadu siarad gyda phobl mewn rolau amrywiol ar gyfer fy sgyrsiau nesaf. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn fy ngalluogi i gael adborth mwy cyflawn o fy ngwaith. Ymhen amser wnâi gofyn am adborth o’r cydweithwyr siaradais gyda chyntaf i weld beth sydd wedi newid a beth y gallaf ddatblygu ymhellach.

Gonestrwydd Radical

Fe wnes i wrando ar bennod o Eat, Sleep, Work, Repeat tua’r un pryd. Yn y pennod yma, fe wnaeth Bruce Daisley siarad â Helen Tupper a Sarah Ellis, a wnaeth sgwennu ‘You Coach You.’ Maen nhw hefyd yn gwneud podlediad Squiggly Careers, felly chwiliais trwy eu hôl-gatalog a dod o hyd i bennod ar Onestrwydd Radical a oedd yn trafod lot o’r hyn roeddwn i’n ceisio gwneud.

Yn y bennod yma, mae Kim Scott a Trier Bryant yn siarad amdano’r pwysigrwydd o ofyn am adborth a’i gweithredu arno cyn i chi roi adborth i bobl eraill. Rwy’n hoffi ei fod nhw’n wneud e’n glir mai rôl y rheolwr yw i wneud e’n saff i roi adborth, nid cyfrifoldeb y person sy’n cael ei reoli. Mae Kim a Trier yn disgrifio adborth fel anrheg i’ch helpu chi i wella ac fel modd o ymchwilio’n bellach i mewn i rôl pŵer. Gwnaeth hyn wneud i mi feddwl bod gan y broses adborth dienw rôl mewn sefyllfaoedd amheus, ond mae’n well gen i’r syniad o gyfarfodydd sy’n sgipio lefel yn y blogbost yma gan Jean-Marie Buchilly, ble mae’r rhai sy’n adrodd i chi yn cwrdd â’ch bos hebddo chi yn y ‘stafell.

Mae’r model hefyd yn trafod agwedd arall y gallaf wella, sef sut rwy’n herio pobl. Fe helpodd fi i feddwl am adegau ble mai osgoi gwrthdaro yw’r peth lleiaf caredig y gallwch wneud. Mae eu fframwaith yn fy atgoffa i o’r Ffenestr Disgyblaeth Gymdeithasol, ac mae’n ddefnyddiol pan rydych eisiau eglurdeb ar sut mae adborth defnyddiol yn edrych.

Y Matrics Gonestrwydd Radical, sy’n cynnwys Empathi Dinistriol, Annidwylledd Ystrywgar, Ymosodedd Ymosodol a Gonestrwydd Radical. Cymerwyd o https://sergiocaredda.eu/inspiration/books/book-review-radical-candor-by-kim-scott
Y Matrics Gonestrwydd Radical, sy’n cynnwys Empathi Dinistriol, Annidwylledd Ystrywgar, Ymosodedd Ymosodol a Gonestrwydd Radical. Cymerwyd o https://sergiocaredda.eu/inspiration/books/book-review-radical-candor-by-kim-scott

Gall osgoi heriau creu sefyllfa o empathi dinistriol, lle nad yw’r adborth yn ddigon penodol i helpu’r person i ddeall beth oedd yn dda neu beth maen nhw’n gallu gwella. Dyma’r enghraifft a roddir:

“Empathi dinistriol yw gweld rhywun gyda sip trowsus nhw i lawr, ond dy chi ddim eisiau codi cywilydd arnyn nhw ac felly dy chi’n dweud dim byd. Y canlyniad yw bod pymtheg fwy o bobl yn gweld nhw gyda’u sip i lawr — mwy o embaras iddyn nhw. Felly ddim mor ‘neis’ wedi’r cyfan.”

Rydw i wedi darganfod lot mwy o adnoddau defnyddiol o’m trafodaethau gyda’r coets a’r archwilio yn dilyn y sgwrs. Bydd e’n ddiddorol gweld os yw’r broses arfarnu yn teimlo’n wahanol eleni. Rydw i wedi nodi yn y gorffennol bod y myfyrdodau ar-lein yma’n ddefnyddiol i lywio fy arfarniad. Rwy’n gobeithio cael adborth cyfoethog o fy nghydweithwyr a darlun mwy gyflawn o beth allai wneud yn well.

--

--

Dyfrig Williams
Gwneud pethau gwell

Cymraeg! Music fan. Cyclist. Scarlet. Work for @researchip. Views mine / Barn fi.