Beth rydw i wedi dysgu o fy amser ar Mastodon

Dyfrig Williams
Gwneud pethau gwell
3 min readDec 2, 2022

--

Awyr gymylog sy’n llawn o awyrennau papur, trwmpedau yn twtio a Mastodon sydd ar fin taflu awyren bapur
Wedi’i rannu trwy Creative Commons o https://ahmadhaghighi.com/blog/2019/mastodon/

Mae Twitter wedi teimlo’n broblematig ers tro, felly o’r diwedd fe wnes i droi at Mastodon. Mae’n blatfform sydd wedi’i apelio, ond oherwydd effaith y rhwydwaith fe wnes i aros yng nghlwm yn Twitter. Doeddwn i ddim yn fabwysiadwr cynnar, ond rwy’n teimlo fel fy mod i wedi cael y cyfle i wneud y camgymeriadau dechreuol clasurol mewn gofod diogel a chefnogol. Felly dyma beth rydw i wedi dysgu hyd yma.

Mae Twitter wedi’i ddylunio ar gyfer gwrthdaro

Wrth ddefnyddio Mastodon mae fe’n teimlo yn fwy ac yn fwy amlwg fod Twitter wedi’i ddylunio ar gyfer cliciau a rhyngweithiadau, nid i greu cymunedau diogel.

Mae’r ffaith eich bod chi’n methu ail-drydar gyda sylwadau fel ar Twitter yn golygu eich bod chi’n rhoi hwb (y modd o ail-drydar ar Mastodon) heb gyd-destun. Felly mae pobl yn lot fwy gofalus ynghylch pa negeseuon maen nhw’n rhannu.

Rydw i hefyd yn hoffi’r system rhybuddio cynnwys. Mae sgrolio trwy Twitter fel arfer yn teimlo fel ymarfer digalon. Ond mae’r rhybuddion yn rhoi’r dewis i mi o ba negeseuon dwi’n gweld os dwi ddim yn teimlo’n wydn iawn.

Efallai nad yw Mastodon yn reddfol, ond mae’n werth yr ymdrech

Ar ôl dod i arfer â system linol Twitter, mae Mastodon yn teimlo ychydig yn ddryslyd. Mae cael tair llinell amser yn teimlo fel gwaith caled. Ond mae cael llinellau amser ar gyfer eich gweinydd, a phwy mae’r bobl ar eich gweinydd yn dilyn yn eich galluogi i fynd tu hwnt i’ch rhwydwaith mewn ffordd oedd yn teimlo’n anodd iawn ar Twitter.

Ac er bod Twitter yn teimlo’n llinol, algorithm sy’n penderfynu beth ‘dych chi’n gweld ac ym mha drefn. Dyw’r botwm hoffi ddim yn effeithio’r algorithm fel ar Twitter, mae fe jyst yn dweud wrth yr awdur eich bod chi’n hoffi’r post. Mae Mastodon yn mynd â ni yn ôl i wraidd Twitter, pan y defnyddiwr oedd yr algorithm. Ni sy’n hybu’r postiadau i’n ddilynwyr, nid algorithm anghysbell.

Mae hyn yn dod â mi at ba gweinydd i fod arno. Mae’n teimlo fel penderfyniad mawr pan does gennych ddim syniad sut mae’r platfform yn gweithio. Mae’n benderfyniad doeddwn i ddim yn teimlo bod gen i’r wybodaeth i wneud. Ond cefais fy nghynghori i ddewis gweinydd fach achos byddai fe’n gweithredu mwy fel cymuned yn lle llwyfan enfawr. Roedd Toot.Wales yn teimlo fel y dewis iawn o’r cychwyn cyntaf oherwydd y croeso cynnes, a hefyd achos rwy’n gallu gweld y rhyngwyneb yn fy mamiaith.

Beth bynnag dy chi’n dewis, rydych chi’n gallu dilyn pobl o unrhyw ran o’r rhwydwaith. Dyw e ddim yn teimlo’n gyfyngedig. Mae’n teimlo fel Twitter ddeng mlynedd yn ôl pan oedd e’n ofod llai gwrthwynebus.

Os ydych chi am gael eich pen o gwmpas Mastodon, anwybyddwch yr ap swyddogol

Mae’r ap swyddogol yn teimlo’n gyfarwydd i bobl sydd wedi treulio amser ar Twitter. Mae’n seiliedig ar linell amser sengl, sef y bobl dy chi’n dilyn. Mae hyn yn gwneud Mastodon yn hawdd i’w ddeall yn y cychwyn, ond mae’n gwneud hi’n anodd i gael eich pen o gwmpas rôl a swyddogaeth y llinellau amser ychwanegol. Roedd symud i Tusky yn help mawr i gael fy mhen o gwmpas y ffrydiau amgen.

A fydd Mastodon yn llwyddiant?

Pwy a ŵyr. Mae’r cymhlethdod yn rhwystr heb os. Ond i’r rhai ohonom sy’n dyheu am fyd gwell, mae’n werth rhoi cynnig arni. Rwy’n teimlo ei bod hi’n bryd i gefnogi’r model cymunedol mae llawer ohonom o fewn gwasanaethau cyhoeddus yn annog. Mae Mastodon yn rhoi’r cyfle i ni ddatganoli rheolaeth y platfform i ffwrdd o gorfforaeth fawr a’i roi i mewn i ddwylo pobl gyffredin, pobl sy’n rhoi cyfle i ni i fwydo i mewn i godau ymddygiad a rheoli’r gweinyddion.

Mae yna ffordd well, ac rydw i am roi cynnig arni.

--

--

Dyfrig Williams
Gwneud pethau gwell

Cymraeg! Music fan. Cyclist. Scarlet. Work for @researchip. Views mine / Barn fi.